Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 2 Mai 2017
Amser: 08.30 -
08.50
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC David J Rowlands AC |
Staff y Pwyllgor: |
Siân Wilkins (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith yn gwneud datganiad ar rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ddydd Mawrth (45 munud)
Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 10 Mai 2017 -
·
Dadl
ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Y
darlun mawr: Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng
Nghymru (60 munud) – wedi'i symud i 14 Mehefin
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Dydd Mercher 17 Mai 2017 -
·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig
(1260 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
Dydd Mercher 24 Mai 2017 –
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer dadl ar 10 Mai.
Dydd Mercher 10 Mai 2017 -
NNDM6288
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod plismona yn fater sydd wedi'i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
2. Yn galw am ddatganoli plismona i Gymru.
3. Yn credu ei bod yn well cydgysylltu materion plismona arbenigol, fel polisïau gwrth-frawychiaeth, ar lefel y DU.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnwys y Ddadl Aelod Unigol nesaf ar yr amserlen ar gyfer 24 Mai.
Nododd y Rheolwyr Busnes amserlen ddiwygiedig y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysgiadol ar ôl cytuno y tu allan i'r Pwyllgor i ymestyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno'r adroddiad ar Gyfnod 1 o 12 Mai i 24 Mai, a'r dyddiad ar gyfer cwblhau Cyfnod 2 o 14 Gorffennaf i 21 Gorffennaf. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gais gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gynnal cyfarfod ychwanegol brynhawn Llun 8 Mai i ystyried y dystiolaeth a gafwyd yn ystod Cyfnod 1, a'r adroddiad drafft.
Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a oedd yn nodi na fydd yn adrodd ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ynghylch y Bil Carchardai a Llysoedd am fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi ystyried y Bil ac yn llunio adroddiad ar gymalau 4-6: yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth; ymchwiliadau i farwolaethau mewn cartrefi diogel i blant. Nododd Jane Hutt na fyddai'r Bil hwn yn mynd ymlaen ymhellach yn San Steffan gan fod y Senedd ar fin cael ei diddymu.
Yn dilyn penderfyniad Mark Reckless i adael grŵp UKIP, rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes y bydd papur ar sut y bydd hyn yn effeithio ar y Pwyllgorau yn cael ei ddosbarthu cyn cyfarfod yr wythnos nesaf, pan fydd angen i'r Rheolwyr Busnes ystyried sut i lenwi'r swyddi gwag.